Pa wasanaethau cyhoeddus y gallwch ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg?Dyma rai mathau o gyrff y gallwch ddisgwyl derbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt: · eich cyngor lleol · eich ysbyty lleol · yr heddlu · canolfan waith leol · llysoedd · coleg addysg bellach neu brifysgol Fel arfer, gallwch ddisgwyl derbyn y gwasanaethau canlynol yn Gymraeg:
Beth bynnag fo’r gwasanaeth bydd rhai ohonom yn teimlo’n fwy cartrefol yn defnyddio’r Gymraeg wrth drafod ein hanghenion. Y gobaith yw y cewch wasanaeth Cymraeg yn ddidrafferth. Fel arfer fe ddylech gael cynnig gwasanaeth Cymraeg heb i chi orfod gofyn amdano ac fe ddylai’r gwasanaeth Cymraeg a Saesneg fod ar gael i’r un safon. Cwyno am Wasanaeth Nid yw pob gwasanaeth ar gael yn Gymraeg eto fel y dylai fod ac o bryd i’w gilydd fe fydd pethau’n mynd o le. Ar yr adegau hynny pan fyddwch yn ei chael hi’n anodd derbyn gwasanaeth Cymraeg, gallwch droi at Gomisiynydd y Gymraeg am gymorth. Mae cynlluniau iaith yn dweud wrthych sut i gwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg. Gallwch ddod o hyd i’r cynlluniau hynny ar wefan Comisiynydd y Gymraeg ac ar wefannau’r cyrff eu hunain |