Apêl Adnewyddu Organ Canolfan Soar
Rhagor 20 January 2019Y Prosiect
Mae’r prosiect yn cynnwys tair elfen,
- Adferiad Organ Peter Conacher, Graddfa 2, i’w chyflwr gwreiddiol.
- Cynllun Gweithgareddau Celfyddydol a Threftadaeth tair blynedd sy’n dod â’r organ yn ôl i galon y cymuned ac yn ein galluogi ni i ymgysylltu â’n cymuned mewn ffyrdd newydd drwy gelfyddydau digidol, dawns, cerddoriaeth, theatr a llawer mwy.
- Cyflogi Swyddog Treftadaeth a fydd yn rhoi’r Cynllun Gweithgareddau ar waith ac â chefnogaeth gwirfoddolwyr newydd yn dysgu sgiliau newydd gan roi cyfle i roi yn ôl i’r gymuned.
Prif nod y prosiect yw cynyddu ymgysylltiad cymunedol a chynyddu hyder a hunan barch ac ehangu gorwelion.
Roeddem ni’n llwyddiannus yn sicrhau Grant Datblygu’r Prosiect oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i ddatblygu’r cynllun. Bellach, rydym ni mewn sefyllfa i gyflwyno cais am yr ail rownd ddiwedd Tachwedd 2018 am ...
Ail-gydia’n dy Gymraeg!
‘Dych chi’n siarad Cymraeg ers gadael ysgol? ‘Dych chi eisiau siarad Cymraeg ond ddim yn teimlo’n hyderus? Oes plant gyda chi sy’n mynd i ysgol Gymraeg?
Os felly, dyma gyfle gwych i chi!
Mae’r Ganolfan yn cynnal sesiynau anffurfiol i rieni, sesiynau syml a llawn hwyl er mwyn i chi gael ail-gydio yn eich Cymraeg a’i ddefnyddio gyda’r teulu i gyd, pryd bynnag a ble bynnag ‘dych chi eisiau.