Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
 
 
English
 

 

Ian Saunders, Lis McLean, Cynghorydd Ernie Gallsworthy, Richard Harrington, Mansel Jones a Dyfrig Morgan
yn Lansiad Swyddogol Menter Gymraeg Merthyr Tudful 30 Ionawr 2004

 

 

Y Flwyddyn Gyntaf 2003 - 2004

Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd 04-05 mae’n naturiol i edrych yn ôl ar lwyddiannau y flwyddyn gynt. Mae swyddogion Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, gyda chymorth partneriaid a gwirfoddolwyr y Fenter, wedi llwyddo i ddarparu gweithgareddau wythnosol ac achlysurol ar gyfer pob sector y gymdeithas eang o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ym Merthyr Tudful a’r cylch.

Cyflwynir amrywiaeth o weithgareddau o fewn adeilad y Ganolfan Gymraeg ym Mhontmorlais yng nghanol tref Merthyr Tudful. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau rheolaidd :Grwp Ti a Fi a Chylch Meithrin i blant dan oedran Ysgol, Dosbarthiadau Cymraeg Dwys i Oedolion, Cyfarfodydd Merched y Wawr, Boreau Coffi wythnosol, Uwch Adran Ieuenctid ac ymarferion Côr Y Ganolfan. Mae’r Fenter hefyd yn cynnal gweithgareddau achlysurol mas yn y Gymuned. Mae’r rhain yn cynnwys ystod eang o ddigwyddiadau o ymweliadau â dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion ac ysgolion Cymraeg ac ail iaith i dripiau i Lundain a Euro disney!

Yn ystod y flwyddyn gyntaf canolbwyntiodd y Fenter ar ehangu gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc y gymuned. Gwelsom gynnydd mawr yn ein darpariaeth i blant a dechreuad da i ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc. Gweithiodd y Fenter ar y cyd gydag Ysgolion Cynradd yr ardal ar gynhyrchiad o ffilm fer am hanes Dic Penderyn. Dechreuodd Uwch Adran i bobl ifanc ym Merthyr ( Y Ganolfan) ac oherwydd llwyddiant y prosiect roedd hi’n bosib i sefydlu Adran ychwanegol ar waelod y cwm yn Nhreharris (Canolfan Cymunedol). Hefyd dechreuodd y Fenter y gwaith pwysig o ddenu pobl ifanc sydd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i fewn i’n plith wrth ymweld ag ysgolion Cynradd a Chyfun Saesneg eu hiaith yr ardal.

Digwyddodd hwn i gyd yn ogystal ag ymweliad Drama Riff i’r Ganolfan, Sadyrnau Siarad, Nosweithiau ciniawa, rownd rhanbarthol Brwydr y Bandiau, Noson Carolau, Noson Geltaidd, ac wrth gwrs dathliadau Gw^yl Dewi!

Flwyddyn gyntaf ysgubol! Diolch i bawb a gefnogodd a chyfrannodd at lwyddiannau’r Fenter llynedd. Gobeithiwn y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth am flwyddyn arall.

 

Amcanion Menter Gymraeg Merthyr

Sefydlwyd Menter Gymraeg Merthyr Tudful 1 af Mai 2003. Mae'r Fenter yn gweithredu o dan ymbarel Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful ac felly wedi'i Ileoli yn adeilad y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr.

Agorwyd Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful ym 1992. Mae'r sefydliad wedi gweithio tuag at ddarparu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgiadol i gymuned Merthyr Tudful ers dros ddegawd. Mae sefydliad Menter Gymraeg Merthyr wedi ein galluogi i fanteisio ar adnoddau, Ileoliad a chysylltiadau a ddatblygwyd gan y Ganolfan Gymraeg yn barod. Rydym yn ymwybodol bod y Ganolfan yn gartref i adnoddau a digwyddiadau Cymraeg eisoes, ond nid yr unig ffocws i weithgareddau'r laith yn ardal Merthyr yw hi. Rydym wrthi yn cymryd neges ac egwyddorion y Ganolfan allan i'r gymuned.

 

  Nod Menter Merthyr yw:
· Ehangu a chryfhau gwasanaethau Cymraeg ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg Sir Bwrdeistref Merthyr Tudful. Bwriedir cyflawni ein nod trwy weithredu a chyflawni'r amcanion canlynol:
1. Darparu gwasanaeth i bobl ifanc y gymuned trwy ddarparu cyfleoedd iddynt gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg
2. Darparu cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yr ardal gwrdd a chymdeithasu trwy'r Gymraeg.
3. Hybu cynnydd yn nifer y rhai sydd yn mynychu gweithgareddau Cymraeg er mwyn ehangu defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.
4. Cryfhau cysylltiadau a sefydliadau eraill yn y gymuned.
Apwyntiwyd dau Swyddog newydd er mwyn cyflawni’r nod sef Lisbeth McLean yn Swyddog Datblygu’r Gymraeg ac Ian Saunders yn Swyddog Maes y Fenter. Mae’r ddau ohonynt yn gweithio tuag at greu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol i’r gymuned Gymraeg trwy gydol bwrdeistref Merthyr Tudful.

Cynhaliwyd sawl gweithgaredd erbyn hyn sef: Cynllun Chwarae i blant 8-11 trwy gydol y gwyliau haf; Uwch Adran i bobl ifanc (11-18); Adran Gynradd I blant 8-11; Boreau Coffi bob bore Mawrth am 11.30 y.b. yn y Ganolfan; Côr bob nos Fercher am 7.30 y.h. yn y Ganolfan; Grwp Drama Ysgol Santes Tudful; Clwb cinio; Cwrs Hyfforddi Arweinyddion Clybiau Ieuenctid; Cyngerdd i ddathlu bywyd Joseph Parry gyda chyfraniadau o’r gymuned Gymraeg ym Merthyr; Gweithdy drama/cerddoriaeth i bobl ifanc; Gweithdai llenyddiaeth i blant ac i oedolion a llawer mwy!

Mae chwe mis cyntaf y Fenter wedi bod yn llwyddiannus iawn rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiadau cyffrous yng nghymuned Merthyr Tudful.


 

Braf yw clywed canmoliaeth Lisbeth, Swyddog Datblygu y Fenter o gefnogaeth gyson y gymuned Gymraeg wrth ddweud “Dwi’n teimlo bod popeth yn dechrau dod at ei gilydd o’r diwedd. Mae llawer o bobl wedi bod yn gweithio tuag at sefydlu Menter Iaith ym Merthyr ers amser. Gyda chefnogaeth ysgolion cynradd Gymraeg Merthyr, y papur bro ac yn enwedig pwyllgor rheoli y Ganolfan Gymraeg rydyn ni wedi llwyddo! Mae hyn yn cychwyn her newydd i gymuned Gymraeg Merthyr gyda chyfleoedd newydd i sicrhau dyfodol ar gyfer yr iaith drwy’r bwrdeistref i gyd.”


Telynores yn y Lansiad


Pontmorlais

Am unrhyw fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddfa ar 01685 722176