Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Help / Cymorth
Soar

Digwyddiadur
DyddiadAmser BethBle
08/02/2012
Dydd Mercher Poster
8.00yh SAUNDERS LEWIS A'R MUDIAD IAITH HEDDIW Sgwrs gan Dr John Davies a thrafodaeth am ddyfodol y mudiad iaith gyda Elin Haf Jones, Catrin Dafydd ac eraill + perfformiad amgen gan Gareth Potter. Nifer cyfyngedig o lefydd. Cyfraniadau ar y drws. Rhan o ddathliadau 50 mlynedd ers Tynged yr Iaith. Cysylltwch â swyddfa@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920 486 469. Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd
09/02/2012
Dydd Iau Poster
7.30yh Coleg y Drindod yn cyflwyno TORRI GAIR Yn ystod haf cynnes 1833 mewn pentref gwledig yn ardal Donegal, daw mab afradlon yr ysgolfeistr lleol adref o Ddulyn i’w bentref enedigol yng nghwmni swyddogion o Royal Engineers. Mae’r milwyr Prydeinig dod dan orchymyn brenhinol i gynnal arolwg o’r tirwedd lleol er mwyn llunio mapiau swyddogol o’r ardal. Wrth fwrw ati i lunio’r mapiau newydd, dechreuir ailenwi yr enwau lleoedd Gwyddelig gwreiddiol er mwyn eu ‘cysoni’ yn iaith y Brenin. Mae’r digwyddiadau hyn yn arwain - yn y pen draw - at ganlyniadau annisgwyl a mileinig. Dyma gyfle i fwynhau perfformiad o ddrama frathog y dramodydd Gwyddelig Brian Friel. Tocynnau: £7 a £5 Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
17/02/2012
Dydd Gwener Poster
8.00pm Theatr Soar yn cyflwyno STEVE EAVES Cyfle arbennig i dreulio noson yng nghwmni’r canwr a chyfansoddwr, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd am dros ddeugain mlynedd. Bydd eich ffefrynnau chi’n cael eu cynnwys? Dewch i weld ac i wrando ar gerddoriaeth Blues hypnotig yr unigryw Steve Eaves a’i fand. Tocynnau: £8 a £6 Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
13/02/2012
Dydd Llun
Am 5 dydd Poster
8.30am-5.30pm Menter Iaith Merthyr Tudful - Canolfan Soar CLWB HANNER TYMOR Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
26/02/2012
Dydd Sul Poster
10.00am-3.30pm Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg SUL SIARAD Mae Sul Siarad yn gyfle perffaith i ymarfer eich Cymraeg, cwrdd â dysgwyr newydd ar eich lefel chi a chael hwyl hefyd. Am £10 yn unig cewch wersi, te neu goffi a chinio ysgafn. Drysau’n agor am 9:30. Gwersi’n dechrau am 10:00. Peidiwch dod cyn 9:30 os gwelwch yn dda. I ymrestru, cysylltwch â ni ar 01443 483 600. Sesiynau un-ar-un hefyd ar gael - Galwch y swyddfa i drefnu. Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB.
Cysylltwch â 01685 722176 am wybodaeth bellach

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg