
| Digwyddiadur |
| Dyddiad | Amser | Beth | Ble |
| 08/02/2012 Dydd Mercher Poster | 8.00yh | SAUNDERS LEWIS A'R MUDIAD IAITH HEDDIW Sgwrs gan Dr John Davies a thrafodaeth am ddyfodol y mudiad iaith gyda Elin Haf Jones, Catrin Dafydd ac eraill + perfformiad amgen gan Gareth Potter. Nifer cyfyngedig o lefydd. Cyfraniadau ar y drws. Rhan o ddathliadau 50 mlynedd ers Tynged yr Iaith. Cysylltwch â swyddfa@cymdeithas.org neu ffoniwch 02920 486 469. | Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd |
| 09/02/2012 Dydd Iau Poster | 7.30yh | Coleg y Drindod yn cyflwyno TORRI GAIR Yn ystod haf cynnes 1833 mewn pentref gwledig yn ardal Donegal, daw mab afradlon yr ysgolfeistr lleol adref o Ddulyn i’w bentref enedigol yng nghwmni swyddogion o Royal Engineers. Mae’r milwyr Prydeinig dod dan orchymyn brenhinol i gynnal arolwg o’r tirwedd lleol er mwyn llunio mapiau swyddogol o’r ardal. Wrth fwrw ati i lunio’r mapiau newydd, dechreuir ailenwi yr enwau lleoedd Gwyddelig gwreiddiol er mwyn eu ‘cysoni’ yn iaith y Brenin. Mae’r digwyddiadau hyn yn arwain - yn y pen draw - at ganlyniadau annisgwyl a mileinig. Dyma gyfle i fwynhau perfformiad o ddrama frathog y dramodydd Gwyddelig Brian Friel. Tocynnau: £7 a £5 | Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB |
| 17/02/2012 Dydd Gwener Poster | 8.00pm | Theatr Soar yn cyflwyno STEVE EAVES Cyfle arbennig i dreulio noson yng nghwmni’r canwr a chyfansoddwr, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd am dros ddeugain mlynedd. Bydd eich ffefrynnau chi’n cael eu cynnwys? Dewch i weld ac i wrando ar gerddoriaeth Blues hypnotig yr unigryw Steve Eaves a’i fand. Tocynnau: £8 a £6 | Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB |
| 13/02/2012 Dydd Llun Am 5 dydd Poster | 8.30am-5.30pm | Menter Iaith Merthyr Tudful - Canolfan Soar CLWB HANNER TYMOR | Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB |
| 26/02/2012 Dydd Sul Poster | 10.00am-3.30pm | Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg SUL SIARAD Mae Sul Siarad yn gyfle perffaith i ymarfer eich Cymraeg, cwrdd â dysgwyr newydd ar eich lefel chi a chael hwyl hefyd. Am £10 yn unig cewch wersi, te neu goffi a chinio ysgafn. Drysau’n agor am 9:30. Gwersi’n dechrau am 10:00. Peidiwch dod cyn 9:30 os gwelwch yn dda. I ymrestru, cysylltwch â ni ar 01443 483 600. Sesiynau un-ar-un hefyd ar gael - Galwch y swyddfa i drefnu. | Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB. |