Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
 
 
English
 


Ieuenctid

Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu – Merthyr Tudful
Ebrill 2007

Morgan o Rhyd y Grug

Mae’r haul mor boeth â bom tân yn mynd bant.
Mae’r môr mor wlyb â phwll nofio.
Mae’r tywydd mor dwym â gwresogydd.
Mae’r traeth mor fawr â phentref cyfan.
Mae’r glaswellt mor hir â gwddf jiraff.
Mae’r goeden mor syth â wal.

 

Emily o Rhyd y Grug

Ei hoff dîm pel-droed yw Chelsea,
Llais hyfryd sydd ganddi pan mae’n canu
I bawb yn y dosbarth, mae hi’n garedig
Zebra yw ei hoff anifail
Angylion pizza yw ei hoff fwyd.

A sglodion hefyd, mae hi’n hoffi sglodion.
Siarad llawer, ydy mae hi’n siarad llawer.
Hoffi mynd ar y trampolîn ar ôl ysgol
Ffrind i bawb a hoffi gwneud ffrindiau
O, mae hi mor bert!
Rydw i’n hoffi Eliza am ei bod hi mor garedig,
Dyma diwedd fy ngherdd!

 

Abigail o Santes Tudful

Fflursen yw ei ffugenw hi!
Lot o hwyl, dyna gawn ni wrth chwarae!
Enw cŵl Abigail yw Aqua, fel y ferch yn y Chetah Girls
Un arbennig, ffrind gorau
Rhywun sy’n chwerthin ar bob jôc, hyd yn oed fy rhai i.

 

Bethan o Santes Tudful

Gwenu mae Gwen drwy’r amser!
Weithiau mae ei llygaid hi’n goleuo fel y sêr,
Edrychwch arni hi!
Ni yw’r ffrindiau gorau yn y byd!
Llygaid brown fel dail yr Hydref.
I mi mae hi’n flodyn hyfryd yn yr haf
Ac mae Gwen yn sbeshial
Nawr, ac am byth, mae’n fy nghynnal.

 

Eliza o Ysgol Rhyd y Grug

Ei hoff beth hi yw mynd lawr i’r carafan.
Mae hi’n ddoniol ac yn siarad llawer!
I fi, mae hi’n ffrind ardderchog
Llygaid brown golau sydd ganddi, maen nhw’n disgleirio!
Yn yr ysgol Winston Churchill yw enw ei grŵp hi!

 

Elis o Rhyd y Grug

Rydym ni’n ffrindiau da,
Helpodd e fi i wneud fy ngwaith.
Os dwi mewn trafferth, mae yno i helpu.
Dwi’n meddwl bod mor ddoniol â chlown.
Rwy’n meddwl ei fod e’n annwyl ac yn hoffi gwisgo lan.
I mi, fe yw’r ffrind gorau i ymddiried ynddo.

 

Jake o Santes Tudful

Shay yw fy ffrind gorau i yn y byd.
Ha! Mae traed hir gan Shay,
Awn ni i lawr i’r siop bob dydd ar ein gwyliau.
Y tîm gorau yn y byd, iddo fe, yw Lerpwl.

 

Lewis o Rhyd y Grug

Mae Mam yn torheulio ac mae hi’n awr mor goch â thomato!
Mae’r brychni haul yn tyfu mor brydferth a blodau.
Mae’r bêl rygbi yn hedfa mor gyflym â’r gwynt.
Mae’r traeth mor llawn â sŵn chwerthin uchel plant yn llenwi bocs bach.
Mae’r môr mor igam-ogam â graff llinell.
Mae’r haul yn tywynu mor pert â diwedd Romeo a Juliet.

 

 

Abigayle o Rhyd y Grug

Natasaha yw fy chwaer,
Ac rydym ni’n cerdded yn y cae.
Textiaf hi i ddweud, ‘bore da!’
Athrawes yw ei swydd hi
Swish, swish, dwi’n nofio bob dydd Sadwrn
H
apus rwyf wrth wylio Eastenders
Ac yna daw Natasha, ac mae hi mor dal â’r drws.

 

Ffion o Ysgol Santes Tudful

Gwen yw’r gorau, bob amser.
Wir, mae hi’n gwenu drwy’r asmer.
Ei hoff fwyd yw pizza.
Nid yw hi’n grac, byth!
Llwyth o hwyl, dyna gawn ni gyda Gwen.
I mi mae hi’n ffrind arbennig.
Ardderchog bob tro,
Ni yw’r ffrindiau gorau yn y byd.

Lauren o Rhyd y Grug

Ashleigh, mae hi’n hwyl a sbri,
Swnllyd? Weithiau!
Hapus drwy’r amser, ydy.
Llwyddodd hi ennill râs nofio yn ddiweddar.
Enillodd yn yr eisteddfod hefyd, am ffasiwn.
I mi mae Ashleigh yn ffrind gorau,
Gwên hyfryd sydd ganddi.
Ha! Mae hoffi bwyta sglogion, fel fi!

Beth o Santes Tudful

Ffab, dyna Ffion!
I mi, mae Ffion yn sbri!
O, mae gan Ffion gi, a ddwedais i?
Na, nid yw Ffion yn hy.

Beth mae Ffion yn ei hoffi?
Efallai ychydig bach o hoci,
Rhedeg yw ei hoff chwaraeon,
Rhoddodd Ffion felon i mi.
Ydyn, rydym ni’n cael hwyl a sbri.

 

Ffion o Santes Tudful

Ffrind ardderchog,
Fring galluog!
I mi, hi yw’r ffrind gorau yn y byd!
Ond rydym fel un, nid fel dwy
Ni sydd yno i’n gilydd.

 

Gwen o Santes Tudful

Bydd Bethan yn canu yn yr Eisteddfod
Efallai y bydd hi’n ennill!
Telyn yw ei hofferyn,
Hyderus, dyna’r gair am Bethan.
Annwyl yw ei hwyneb
Ni yw’r ffrindiau gorau.

Ashleigh o Rhyd y Grug

Llwyddo ym mhopeth, dyna ei hanes
Ardderchog o ffrind.
Ust! Mae hi weithiau’n swnllyd!
Rwshio ei gwaith, weithiau.
Enillodd hi gyntaf dair gwaith, un tro
Neidio mae Lauren fel cangarŵ!

 

Lloyd o Santes Tudful

Arbennig yw Ashleigh i mi.
Siarad a chwerthin sy’n sbri!
Hwyl yw chwarae gydag e,
Lle awn ni nesaf, dw i ddim yn gwybod lle.
Efallai y byddwn ni’n gweld ein gilydd yn y siop.
Ydw, rydw i mor hapus i gael ffrind, dw i’n siglo fel pop!


CD Opera Roc
Cyhoeddwyd CD o Opera Roc y Fenter
Prynwch gopi!

Opera Roc

Opera Roc

  Instant Slide Show!

Paentio Ystafell Ieuenctid Canolfan Merthyr - Mawrth 2004


Uwch Adran Merthyr


Dic Penderyn a'i wraig ym mherfformiad y Ganolfan

 


Am unrhyw fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddfa ar 01685 722176