
Gweithdy Telyn i Ddechreuwyr![]() Cynhaliwyd gweithdy telyn i ddechreuwyr yng Nghanolfan Adnoddau Bedlinog ddydd Mawrth 15 Mai fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2012. Roedd yn gyfle i gyfranogwyr roi cynnig ar ddysgu sgiliau sylfaenol a chaneuon syml fel 'Heno, Heno' a 'Lavender Blue'. Roedd yn noson lwyddiannus iawn a gobeithwn drefnu cyfres o weithdai tebyg yn y dyfodol agos! ![]() 17/05/2012 Noson Cwis![]() Llongyfarchiadau i'r tim buddugol - Y Rhai Hwyr! ![]() 23/03/2012 ![]() ![]() 25/04/2012 Dydd Gŵyl DewiCafwyd diwrnod i’w gofio yn Merthyr ar y 1af o Fawrth. Bu staff Canolfan Soar, mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn holi pobl y dref ynglyn â beth mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn ei olygu iddyn nhw.
Gellir gweld ffilm fer o hyn ar Youtube yn dilyn teipio “Dydd Gŵyl Dewi hapus” i mewn i'r porwr. Cawson ni hefyd ddiwrnod llwyddiannus yn marchnata’r Ganolfan a digwyddiadau ar stondin pwrpasol. I ddilyn, cafwyd noson hwyliog o farddoni, cwis a sgwrs yng nghwmnni Colin Williams. Dathliad Gŵyl Dewi i’w gofio! 13/03/2012
|
Lis a Soar ar Radio Cymru 26 Hydref 2011
Digwyddiadau
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn cyflwyno 7.00yh-8.00yh Dydd Mawrth Caffi Cwtsh, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB SESIWN SIARAD MERTHYR TUDFUL (PONTMORLAIS) Ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen. Bob dydd Mawrth am ddeg wythnos. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Ifan Dylan, Swyddog Dysgu Anffurfiol CCiO Morgannwg ar 01443 482 555 / 07990 578 407
|