Lansio Menter Newydd
Ar ddydd Gwener, 30 Ionawr, bydd Menter Gymraeg newydd yn cael ei lawnsio ym Merthyr Tudful. Sefydlwyd y Fenter gan Ganolfan Gymraeg Merthyr Tudful gyda chymorth ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'i nod yw - Ehangu a Chryfhau gwasanaethau Cymraeg ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Cychwynwyd ar weithgareddau'r Fenter ym mis Mai 2003 ac yn barod bu cryn ddiddordeb a llwyddiant yn y darpariaethau a drefnwyd.