Paratoi at Hanner Tymor
Mae Canolfan a Menter Merthyr wedi paratoi cyfres o weithgareddau i blant dros hanner tymor mis Chwefror. Bydd cyfle i blant o 8 i 11 oed i fynd ar daith beicio, cael gweithdy syrcas a thaith i Amgueddfa Caerdydd. Mae manylion y gweithgareddau i'w gweld yn ail rifyn Digwyddiadur y Fenter sydd ar gael o'r Ganolfan Gymraeg