Gwyl Aml-ddiwylliant Merthyr
Bu Menter Merthyr yn Nigwyddiad Pentre Byd Eang ar ddydd Sul Gorffennaf 17. Gwyl aml-ddiwylliannol oedd y diwrnod, i ddathlu'r diwylliannau wahanol sydd ym Merthyr Tudful. Bu i sawl mudiad perfformio ar lwyfan, gan gynnwys Belly Dancers, dawnswyr o'r Philipine a dawnswyr Flamenco! Roedd Ysgol Santes Tudful, Rhyd y Grug a Rhydywaun wedi perfformio eitemau i gynrychioli ein diwylliant ni yma yng Nghymru! Roedd hi'n ddiwrnod llwyddiannus iawn!