Theatr Ieuenctid Newydd
Theatr Ieuenctid Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
Ar ddydd Sadwrn, Medi 17, dechreuwyd gweithdai theatr yn y Ganolfan. Fel y gwelwch mai'r gweithdai yn llwyddiannus iawn ac yn denu nifer o blant a phobl ifanc bob prynhawn Sadwrn. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi'r prosiect yma yn ariannol. Mae'r plant a phobl ifanc yn dysgu sgiliau celfyddydol, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl odan hyfforddiant Ysgol Theatr Star Maker. Bydd perfformiadau yn y dyfodol agos!! Os oes diddordeb gyda chi i ymuno ffoniwch Caroline am fwy o wybodaeth ar 01685722176!