Twmpath Ardderchog

Ble oeddech chi nos Wener Hydref 7 2005?! Wel, os nad oeddech chi yn y Clwb Guest yn Nowlais wnaethoch chi golli noson llawn chwerthin a chwrw!!!
Diolch yn fawr iawn i ‘Jac y Do’ am eu harweiniad bendigedig yn ystod y noson twmpath i ddysgwyr a Chymry Cymraeg. Bu i bawb mwynhau ymuno yn y nifer o ddawnsfeydd gwerin, cymdeithasu a chwerthin wrth geisio cael symudiadau’r dawnsfeydd yn gywir!! O ganlyniad i’r noson mae Cangen CYD Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful wedi cael ei sefydlu! Fe fydd Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful yn trefnu sesiynnau cwrdd a digwyddiadau i’r gangen bob tymor felly cofiwch i bigo mewn i’r Ganolfan i gael eich copi o’r Digwyddiadur diweddaraf! Y digwyddiad nesaf i’r gangen fydd Cwis Cymraeg i ddysgwyr a Chymry Cymraeg yng Ngwesty’r Bontnewydd, Trelewis. Dim mwy na chwech mewn tîm, ac mae’n rhaid i bob tîm cynnwys un dysgwr ac un person yn rhugl yn y Gymraeg! Pris y noson fydd £2 y pen ac fe fydd bws yn cael ei drefnu o Ferthyr Tudful. Os ydych chi am gofrestri tîm cysylltwch â Caroline ar 01685722176 neu Rhian James ar 01685877183.
