Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr
Daeth nifer o ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun ynghyd nos Fercher diwethaf ar gyfer ail sesiwn jamio Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful .
Wedi ei threfnu ar y cyd efo’r cynllun ieuenctid CIC Rhondda Cynon Taff, cyfle oedd i gerddorion ifainc y cymoedd canu’u hofferynnau efo cerddorion profiadol mewn sefyllfa byw.
Roedd neuadd y Ganolfan, a adnewyddwyd yn ddiweddar, yn mor o gerddoriaeth wrth i sŵn gitarau, drymiau, ffidilau, clarinetau ac un accordion(!) llenwi’r awyr.
‘llwyddwyd y noson yn ei amcan o ddod a cherddoriaeth Gymraeg i’r ardal a darparu’r cyfle i bobol ifanc profi’r iaith y tu allan i’r ysgol mewn sefyllfa fodern a chyfoesol’
Edrycha’r trefnwyr ymlaen at gynnal fwy o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol agos, gan ddechrau efo gig ‘Y Diwygiad’ ar nos Wener, 19eg Ionawr yn y Ganolfan Gymraeg.