Cerdd a Chwrw 12/4/07

Nos Iau'r 12fed Ebrill croesawodd y gymuned Gymraeg ym Merthyr yr awdur Mihangel Morgan i Westy’r Imp, Pontmorlais, ar gyfer noson o Gerddi a Chwrw. Yn wreiddiol o Aberdâr, enillodd Mihangel y Fedal Ryddiaith efo’i nofel Dirgel Ddyn. Cafwyd lot mawr o hwyl wrth wrando ar gerddi ysgafn a doniol Mihangel a llwyddodd i gadw sylw ei gynulleidfa.
Cafwyd hefyd gyfle i’r cyhoedd rannu eu barddoniaeth â ni, weler y llun uchod o Robert Hughes a ddatgelodd ei gyfanwaith athronyddol ar y Fenter.
Gorffennwyd y noson efo tipyn o ganu traddodiadol a arweiniwyd gan Phyl (siop y ganolfan) a Jamie (Menter Merthyr), y cerddorion o fri.
Fe fydd noson arall yn cael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf, unrhyw awgrymiadau am Awdur/Bardd, cysylltwch â’r Fenter.
Noson Menter Iaith
Duw, mae’n anodd on’d yw e
I ddod o hyd i Gymru lân
Ar lannau balch yr Afon Taf
’Mond cyfarch cewch neu ryw hen gân
Dyma sut ’roedd bywydau ni
Ond i’r bwlch gamodd Menter Iaith
Syniadau llawn a chyffrous bu
Am noson gwis neu gig neu daith
Fi ’di ymrwymo i’r gymdeithas hon
’Da Lis a Siami a’u criw mor ffein
ond dwi ’di dechrau poeni braidd
Bydd rhaid i fi dynnu’r lein
Am fod bob tro dwi’n mynychu’r peth
A sai’n dweud bod nhw ddim yn dda
Mae rhywbeth yn gyffredin wir
Nid yr iaith ond presenoldeb bar
Tee-total fûm cyn dechrau hon
Ac mae fy waled wedi cymryd braw
Fy mol ’di tyfu, fi’n colli siâp
A becso bydd rhaid imi gadw draw
Mae ’Nghymraeg ’di gwella does dim dowt
Ond medd y meddyg bod gen i gowt
Am gwmni chi gyd fi moyn y fraint
Ond plîs gawn ni noson heb ddeg peint!
Gan Robert Hughes
