Sgwad Sgwennu
Mae nifer o blant wedi bod yn mwynhau sesiynau sgwennu creadigol dros y misoedd diwethaf. Wedi ei threfnu ar y cyd gyda Chyngor Merthyr Tudful a’r Fenter mae’r awdures Catrin Dafydd wedi bod yn tywys y bobol ifanc trwy’r proses o sgwennu gwaith ei hun. Cafwyd lot mawr o hwyl ac fe fydd y sesiwn nesaf yn cymryd lle ar Ddydd Sadwrn Mai 26ain am 10.00 y.b. yn y Ganolfan Gymraeg. Weler enghreifftiau o waith y sgwad sgwennu isod.
Cysylltwch â’r Fenter am fwy o wybodaeth.