Band fwyaf y byd yn canu i dorfeydd Merthyr!!
Cafwyd noson anhygoel lawr yn y Great Escape wythnos diwethaf pan chwaraeodd y fand 'Sibrydion' Merthyr Tudful am y tro gyntaf.
Cychwynwyd y noson gyda set gan Justin Preece (Pontypridd) a channodd yng Nghymraeg yn ogystal a saesneg (bydd Justin yn chwarae gig arall yn y Great Escape yn Ionawr).
Chwaraewyd set fywiog gan Y Sibrydion (cyn Big Leaves a Beganifs)fel rhan o'i daith i gwthio'i record newydd Simsalabim. Gyda phawb lan yn dawnsio uchafbwynt oedd mewn y cyfress diweddaraf o gigs Cymraeg yn Ferthyr.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf pan fydd y Menter yn gobeithio denu actiau fawr eraill yr SRG megis Cowbois rhos, Mim Twm llai, Genod Drwg a Dafydd Iwan (sydd wedi cadarnhau am y 1af Mawrth).