Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Dewiswch

£5000 - Cyfle i fusnesau newydd 07/06/2010
Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!) 07/05/2010
Gweithgareddau i Ddysgwyr 17/04/2010
Cwrs lefel Mynediad 17/08/2009
£2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr 20/07/2009
Prosiect Gwaith Ieuenctid 17/02/2009
Bwrlwm ym Merthyr 16/02/2009
Grant i Gapel Soar 09/10/2008
Hanes Capel Soar 17/07/2008
Llwyddiant Ddramatig! 01/02/2008
Band fwyaf y byd yn canu i dorfeydd Merthyr!! 23/11/2007
Dawnsio Disgo 11/10/2007
Ysgol Roc! 30/08/2007
Arswyd yn y Ganolfan 23/05/2007
Sgwad Sgwennu 29/04/2007
Cerdd a Chwrw 12/4/07 20/04/2007
Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu 17/04/2007
CYMRO-C ar y blaen 29/03/2007
Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr 15/01/2007
Theatr Ieuenctid 13/09/2006
SEREMONI WOBRWYO'R SESIYNAU CHWARAE 03/09/2006
Sesiynau Chwarae'r Haf 25/08/2006
Sesiynau Chwarae 31/07/2006
Gweithdy Pop 27/07/2006
LLWYDDIANT OPERA ROC 84/85 19/07/2006
DIGWYDDIAD PENTREF BYD EANG 19/07/2006
Cynllun Soar 15/07/2006
OPERA ROC 84/85 30/06/2006
HELFA DRYSOR HANES MERTHYR TUDFUL 26/06/2006
Noson Ciniawa yng nghwmni Nia Parry 26/06/2006
Sesiynau Chwarae Hanner Tymor yr Haf 01/06/2006
SIOEAU TRIONGL 22/05/2006
Opera Roc Y Fenter 19/05/2006
Cwis Teulu Eddie Butler 07/04/2006
Sesiynnau Chwarae Chwefror 23/02/2006
YMGYRCH MARCHNATA CYMRAEG - SOAK IT UP 22/02/2006
Sesiwn Hwiangerdd Prif Lyfrgell Merthyr Tudful 10/02/2006
DATHLU PENBLWYDD!!! 17/01/2006
TRIP CANOLFAN Y MILENIWM 03/01/2006
Hwyl Hanner Tymor yr Hydref 27/10/2005
Angen Arweinydd Côr 20/10/2005
Twmpath Ardderchog 14/10/2005
Theatr Ieuenctid Newydd 28/09/2005
Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg 25/07/2005
Gwyl Aml-ddiwylliant Merthyr 18/07/2005
Swyddog Maes Newydd 16/05/2005
Hwyl Hanner Tymor 17/04/2005
Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies 17/04/2005
Paentio Ystafell Ieuenctid Canolfan Merthyr - Mawrth 2004 17/04/2004
Paratoi at Hanner Tymor 14/01/2004
Lansio Menter Newydd 04/01/2004
Penodi Swyddogion i Fenter Merthyr 15/05/2003

Grant i Gapel Soar

Grant i Gapel Soar
Rhoddwyd hwb mawr i gymuned Merthyr gydag addewid o grant o £527,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) i drawsnewid adeiladau Capel Soar a’i Festri yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol a’r celfyddydau perfformio.

Mae’r prosiect, fyddai’n creu lleoliad stiwdio’r celfyddydau perfformio a chyfleuster arddangos cyntaf Merthyr Tudful, wedi cael pas Cyfnod Un*, sy’n golygu bod CDL wedi clustnodi’r arian wrth i gynlluniau manylach gael eu rhoi at ei gilydd. Bydd £56,000 ychwanegol o arian datblygu oddi wrth CDL yn galluogi i Ganolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful (CMGMT), sefydliad cymunedol, symud ymlaen gyda’i gynllun £1.3 miliwn i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Capel rhestredig Gradd II ac i greu canolbwynt y mae angen mawr amdano yng nghanol y gymuned.

Hefyd, mae’r prosiect wedi’i gefnogi gyda £300,000 oddi wrth raglen Blaenau’r Cymoedd.

Mae Capel Soar yn adeilad amlwg yng nghanol tref Merthyr. Bydd cynlluniau i ailwampio a grant CDL yn adfywio’r adeilad sydd wedi bod dan fygythiad cael ei gau. Ar hyn o bryd, mae CMGMT yn cynnal ystod o weithgareddau cymunedol o’u canolfan yn y cyn Festri ac adeiladau’r Ysgol Sul, a byddant yn ymgymryd â Phrydles y Capel i ymestyn eu gwasanaethau ac i sefydlu lleoliad stiwdio’r celfyddydau a chyfleuster arddangos cyntaf y dref. Bydd y cyfleusterau gwell yn darparu ystod fwy o weithgareddau i bobl ifanc ac oedolion ym Merthyr, gan gynnwys grwpiau theatr, gwersi cerdd a sesiynau hyfforddi fydd yn cynnwys pynciau o’r iaith Gymraeg i dreftadaeth i fagu hyder. Bydd y ganolfan ddwyieithog ar agor i bawb, gan dargedu grwpiau ysgol, grwpiau cymuned a grwpiau anabledd a phobl sydd wedi’u heithrio yn benodol.

At hyn, bydd y grant yn ariannu swyddog treftadaeth i gynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Merthyr, yn arbennig ei threftadaeth adeiledig a rôl yr iaith Gymraeg. Bydd y swyddog yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr CMGMT i greu arddangosfeydd, diwrnodau treftadaeth a gweithdai a bydd yn ceisio recriwtio 20 o bobl ifanc eraill i helpu cynllunio ac arwain gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Dan Clayton Jones, Cadeirydd Pwyllgor Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru: “Capel Soar yw un o unig Gapeli’r Annibynwyr sy’n weddill ac sydd mewn un darn mewn ardal sydd wedi colli darnau sylweddol o’i threftadaeth adeiledig o’r 19eg ganrif. Mae ei drawsnewid yn ganolfan i bobl leol yn ffordd grêt o ddiogelu ei ddyfodol. Wedi iddo gael ei ddatblygu’n llawn, bydd y prosiect o fantais enfawr i’r gymuned gyfan ym Merthyr a bydd yn galluogi i bawb ddysgu mwy am y gorffennol ar stepen eu drws.”

“Byddai’r cynllun arfaethedig yn rhoi’r cyfle i wirfoddolwyr, yn arbennig pobl ifanc, gymryd rhan mewn trefnu gweithgareddau, ymgysylltu â phobl ifanc eraill a chymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau eu hunain. Heb os, mae gan y ganolfan botensial enfawr i fod yn ganolbwynt i blant ysgol a grwpiau cymunedol. Nawr, bydd rhaid i CMGMT ddatblygu eu cynlluniau a gweithio i ddiogelu arian partneriaeth er mwyn i ni allu cyflwyno’r arian iddynt.”

Bu i Leighton Andrews, Dirprwy Weinidog Adfywio, groesawu’r newyddion: “Mae hwn yn brosiect allweddol yng nghanol Merthyr fydd nid yn unig yn diogelu ac yn trawsnewid adeilad eiconig ond hefyd yn darparu canolfan bwysig i’r gymuned a ffocws allweddol ar gyfer meithrin talent leol yn y celfyddydau creadigol. Hefyd, mae ganddo’r potensial i greu swyddi newydd ac rwyf wrth fy modd y bydd arian oddi wrth CDL a rhaglen Blaenau’r Cymoedd yn helpu i droi’r prosiect cyffroes ac arloesol yma’n realiti.”

Credir bod datblygiad y ganolfan yn rhan annatod o Strategaeth y Celfyddydau Merthyr sydd wedi’i gynnig gan yr awdurdod lleol fel rhan o gynllun adfywio ehangach allai ddatblygu Parth y Celfyddydau yn ardal Pontmorlais.

Dywedodd Lisbeth McLean, Swyddog Datblygu yn CMGMT: “Mae’r newyddion bod yr arian ar ei ffordd wedi dod yn sgil tair blynedd o waith caled gan CMGMT gyda chefnogaeth Fforwm y Celfyddydau Merthyr a’r Cyngor Bwrdeistref. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned i wireddu breuddwydion y bobl dalentog sydd gennym yn ein hardal. Hefyd, mae’r prosiect yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen i’r iaith Gymraeg a’n gobaith yw y bydd hyn yn allweddol i agor pob math o ddrysau yn y dyfodol.”
Grant i Gapel Soar
09/10/2008

 

 

Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc


Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Bydd yna gyfle gwych i godi arian tuag at Ysgolion Gymraeg Rhyd y Grug a Santes Tudful a’r Ganolfan Gymraeg wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Glyn Ebwy eleni. 
Mae’r Ganolfan wedi sicrhau'r cytundeb i redeg meysydd parcio’r Eisteddfod ac mae angen nifer fawr o wirfoddolwyr i stiwardio. 
Am bob shifft a gweithiwyd fe fydd cyfle i ennill arian tuag at un o’r tri grŵp. 

Os fedrwch cyfranni gwpl o oriau dros yr wythnos a wnewch chi cysylltu a'r Menter ar 01685 722176 neu jamie@merthyrtudful.com, diolch o galon Glyn Ebwy 7yb-11yh  01/08/2010

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful/Menter Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy/Menter Caerffili Pabell y Mentrau - Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd

Dewch draw i babell y Mentrau Iaith yn ystod yr Eisteddfod lle bydd llu o weithgareddau i'r holl deulu, gan gynnwys setiau acwstig gan rai o sêr y Sin Roc Gymraeg.

Cysylltwch â'r Menter am fanylion llawn.
 Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy 2.00  31/07/2010

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful/C.B.S.M.T Cerdd a Chwrw - Ymunwch a'r bardd Ifor ap Glyn ar gyfer noson o gerdd a chwrw.

Cyfle i wrando ar un o fawrion byd llenyddiaeth Cymru.

Am ddim! Gwesty'r Imperial, Pontmorlais, Merthyr Tudful 8.00  26/08/2010

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg