Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Dewiswch

£5000 - Cyfle i fusnesau newydd 07/06/2010
Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!) 07/05/2010
Gweithgareddau i Ddysgwyr 17/04/2010
Cwrs lefel Mynediad 17/08/2009
£2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr 20/07/2009
Prosiect Gwaith Ieuenctid 17/02/2009
Bwrlwm ym Merthyr 16/02/2009
Grant i Gapel Soar 09/10/2008
Hanes Capel Soar 17/07/2008
Llwyddiant Ddramatig! 01/02/2008
Band fwyaf y byd yn canu i dorfeydd Merthyr!! 23/11/2007
Dawnsio Disgo 11/10/2007
Ysgol Roc! 30/08/2007
Arswyd yn y Ganolfan 23/05/2007
Sgwad Sgwennu 29/04/2007
Cerdd a Chwrw 12/4/07 20/04/2007
Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu 17/04/2007
CYMRO-C ar y blaen 29/03/2007
Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr 15/01/2007
Theatr Ieuenctid 13/09/2006
SEREMONI WOBRWYO'R SESIYNAU CHWARAE 03/09/2006
Sesiynau Chwarae'r Haf 25/08/2006
Sesiynau Chwarae 31/07/2006
Gweithdy Pop 27/07/2006
LLWYDDIANT OPERA ROC 84/85 19/07/2006
DIGWYDDIAD PENTREF BYD EANG 19/07/2006
Cynllun Soar 15/07/2006
OPERA ROC 84/85 30/06/2006
HELFA DRYSOR HANES MERTHYR TUDFUL 26/06/2006
Noson Ciniawa yng nghwmni Nia Parry 26/06/2006
Sesiynau Chwarae Hanner Tymor yr Haf 01/06/2006
SIOEAU TRIONGL 22/05/2006
Opera Roc Y Fenter 19/05/2006
Cwis Teulu Eddie Butler 07/04/2006
Sesiynnau Chwarae Chwefror 23/02/2006
YMGYRCH MARCHNATA CYMRAEG - SOAK IT UP 22/02/2006
Sesiwn Hwiangerdd Prif Lyfrgell Merthyr Tudful 10/02/2006
DATHLU PENBLWYDD!!! 17/01/2006
TRIP CANOLFAN Y MILENIWM 03/01/2006
Hwyl Hanner Tymor yr Hydref 27/10/2005
Angen Arweinydd Côr 20/10/2005
Twmpath Ardderchog 14/10/2005
Theatr Ieuenctid Newydd 28/09/2005
Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg 25/07/2005
Gwyl Aml-ddiwylliant Merthyr 18/07/2005
Swyddog Maes Newydd 16/05/2005
Hwyl Hanner Tymor 17/04/2005
Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies 17/04/2005
Paentio Ystafell Ieuenctid Canolfan Merthyr - Mawrth 2004 17/04/2004
Paratoi at Hanner Tymor 14/01/2004
Lansio Menter Newydd 04/01/2004
Penodi Swyddogion i Fenter Merthyr 15/05/2003

Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu

Merthyr Tudful Ebrill 2007

Morgan o Rhyd y Grug

Mae’r haul mor boeth â bom tân yn mynd bant.
Mae’r môr mor wlyb â phwll nofio.
Mae’r tywydd mor dwym â gwresogydd.
Mae’r traeth mor fawr â phentref cyfan.
Mae’r glaswellt mor hir â gwddf jiraff.
Mae’r goeden mor syth â wal.



Emily o Rhyd y Grug

Ei hoff dîm pel-droed yw Chelsea,
Llais hyfryd sydd ganddi pan mae’n canu
I bawb yn y dosbarth, mae hi’n garedig
Zebra yw ei hoff anifail
Angylion pizza yw ei hoff fwyd.

A sglodion hefyd, mae hi’n hoffi sglodion.
Siarad llawer, ydy mae hi’n siarad llawer.
Hoffi mynd ar y trampolîn ar ôl ysgol
Ffrind i bawb a hoffi gwneud ffrindiau
O, mae hi mor bert!
Rydw i’n hoffi Eliza am ei bod hi mor garedig,
Dyma diwedd fy ngherdd!



Abigail o Santes Tudful

Fflursen yw ei ffugenw hi!
Lot o hwyl, dyna gawn ni wrth chwarae!
Enw cŵl Abigail yw Aqua, fel y ferch yn y Chetah Girls
Un arbennig, ffrind gorau
Rhywun sy’n chwerthin ar bob jôc, hyd yn oed fy rhai i.



Bethan o Santes Tudful

Gwenu mae Gwen drwy’r amser!
Weithiau mae ei llygaid hi’n goleuo fel y sêr,
Edrychwch arni hi!
Ni yw’r ffrindiau gorau yn y byd!
Llygaid brown fel dail yr Hydref.
I mi mae hi’n flodyn hyfryd yn yr haf
Ac mae Gwen yn sbeshial
Nawr, ac am byth, mae’n fy nghynnal.



Eliza o Ysgol Rhyd y Grug

Ei hoff beth hi yw mynd lawr i’r carafan.
Mae hi’n ddoniol ac yn siarad llawer!
I fi, mae hi’n ffrind ardderchog
Llygaid brown golau sydd ganddi, maen nhw’n disgleirio!
Yn yr ysgol Winston Churchill yw enw ei grŵp hi!



Elis o Rhyd y Grug

Rydym ni’n ffrindiau da,
Helpodd e fi i wneud fy ngwaith.
Os dwi mewn trafferth, mae yno i helpu.
Dwi’n meddwl bod mor ddoniol â chlown.
Rwy’n meddwl ei fod e’n annwyl ac yn hoffi gwisgo lan.
I mi, fe yw’r ffrind gorau i ymddiried ynddo.



Jake o Santes Tudful

Shay yw fy ffrind gorau i yn y byd.
Ha! Mae traed hir gan Shay,
Awn ni i lawr i’r siop bob dydd ar ein gwyliau.
Y tîm gorau yn y byd, iddo fe, yw Lerpwl.



Lewis o Rhyd y Grug

Mae Mam yn torheulio ac mae hi’n awr mor goch â thomato!
Mae’r brychni haul yn tyfu mor brydferth a blodau.
Mae’r bêl rygbi yn hedfa mor gyflym â’r gwynt.
Mae’r traeth mor llawn â sŵn chwerthin uchel plant yn llenwi bocs bach.
Mae’r môr mor igam-ogam â graff llinell.
Mae’r haul yn tywynu mor pert â diwedd Romeo a Juliet.







Abigayle o Rhyd y Grug

Natasaha yw fy chwaer,
Ac rydym ni’n cerdded yn y cae.
Textiaf hi i ddweud, ‘bore da!’
Athrawes yw ei swydd hi
Swish, swish, dwi’n nofio bob dydd Sadwrn
Hapus rwyf wrth wylio Eastenders
Ac yna daw Natasha, ac mae hi mor dal â’r drws.



Ffion o Ysgol Santes Tudful

Gwen yw’r gorau, bob amser.
Wir, mae hi’n gwenu drwy’r asmer.
Ei hoff fwyd yw pizza.
Nid yw hi’n grac, byth!
Llwyth o hwyl, dyna gawn ni gyda Gwen.
I mi mae hi’n ffrind arbennig.
Ardderchog bob tro,
Ni yw’r ffrindiau gorau yn y byd.

Lauren o Rhyd y Grug

Ashleigh, mae hi’n hwyl a sbri,
Swnllyd? Weithiau!
Hapus drwy’r amser, ydy.
Llwyddodd hi ennill râs nofio yn ddiweddar.
Enillodd yn yr eisteddfod hefyd, am ffasiwn.
I mi mae Ashleigh yn ffrind gorau,
Gwên hyfryd sydd ganddi.
Ha! Mae hoffi bwyta sglogion, fel fi!

Beth o Santes Tudful

Ffab, dyna Ffion!
I mi, mae Ffion yn sbri!
O, mae gan Ffion gi, a ddwedais i?
Na, nid yw Ffion yn hy.

Beth mae Ffion yn ei hoffi?
Efallai ychydig bach o hoci,
Rhedeg yw ei hoff chwaraeon,
Rhoddodd Ffion felon i mi.
Ydyn, rydym ni’n cael hwyl a sbri.



Ffion o Santes Tudful

Ffrind ardderchog,
Fring galluog!
I mi, hi yw’r ffrind gorau yn y byd!
Ond rydym fel un, nid fel dwy
Ni sydd yno i’n gilydd.



Gwen o Santes Tudful

Bydd Bethan yn canu yn yr Eisteddfod
Efallai y bydd hi’n ennill!
Telyn yw ei hofferyn,
Hyderus, dyna’r gair am Bethan.
Annwyl yw ei hwyneb
Ni yw’r ffrindiau gorau.

Ashleigh o Rhyd y Grug

Llwyddo ym mhopeth, dyna ei hanes
Ardderchog o ffrind.
Ust! Mae hi weithiau’n swnllyd!
Rwshio ei gwaith, weithiau.
Enillodd hi gyntaf dair gwaith, un tro
Neidio mae Lauren fel cangarŵ!



Lloyd o Santes Tudful

Arbennig yw Ashleigh i mi.
Siarad a chwerthin sy’n sbri!
Hwyl yw chwarae gydag e,
Lle awn ni nesaf, dw i ddim yn gwybod lle.
Efallai y byddwn ni’n gweld ein gilydd yn y siop.
Ydw, rydw i mor hapus i gael ffrind, dw i’n siglo fel pop!


17/04/2007

 

 

Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc


Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful Noson Acwstig - Dewch lawr i Gwesty'r Imperial Nos Iau nesaf ar gyfer noson o gerddoriaeth acwstig. Croeso mawr i chi ymuno mewn neu gwrando.

Rhad ac am ddim Gwesty'r Imperial, Pontmorlais 8.00  09/09/2010

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg