Dewiswch£5000 - Cyfle i fusnesau newydd 07/06/2010Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!) 07/05/2010 Gweithgareddau i Ddysgwyr 17/04/2010 Cwrs lefel Mynediad 17/08/2009 £2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr 20/07/2009 Prosiect Gwaith Ieuenctid 17/02/2009 Bwrlwm ym Merthyr 16/02/2009 Grant i Gapel Soar 09/10/2008 Hanes Capel Soar 17/07/2008 Llwyddiant Ddramatig! 01/02/2008 Band fwyaf y byd yn canu i dorfeydd Merthyr!! 23/11/2007 Dawnsio Disgo 11/10/2007 Ysgol Roc! 30/08/2007 Arswyd yn y Ganolfan 23/05/2007 Sgwad Sgwennu 29/04/2007 Cerdd a Chwrw 12/4/07 20/04/2007 Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu 17/04/2007 CYMRO-C ar y blaen 29/03/2007 Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr 15/01/2007 Theatr Ieuenctid 13/09/2006 SEREMONI WOBRWYO'R SESIYNAU CHWARAE 03/09/2006 Sesiynau Chwarae'r Haf 25/08/2006 Sesiynau Chwarae 31/07/2006 Gweithdy Pop 27/07/2006 LLWYDDIANT OPERA ROC 84/85 19/07/2006 DIGWYDDIAD PENTREF BYD EANG 19/07/2006 Cynllun Soar 15/07/2006 OPERA ROC 84/85 30/06/2006 HELFA DRYSOR HANES MERTHYR TUDFUL 26/06/2006 Noson Ciniawa yng nghwmni Nia Parry 26/06/2006 Sesiynau Chwarae Hanner Tymor yr Haf 01/06/2006 SIOEAU TRIONGL 22/05/2006 Opera Roc Y Fenter 19/05/2006 Cwis Teulu Eddie Butler 07/04/2006 Sesiynnau Chwarae Chwefror 23/02/2006 YMGYRCH MARCHNATA CYMRAEG - SOAK IT UP 22/02/2006 Sesiwn Hwiangerdd Prif Lyfrgell Merthyr Tudful 10/02/2006 DATHLU PENBLWYDD!!! 17/01/2006 TRIP CANOLFAN Y MILENIWM 03/01/2006 Hwyl Hanner Tymor yr Hydref 27/10/2005 Angen Arweinydd Côr 20/10/2005 Twmpath Ardderchog 14/10/2005 Theatr Ieuenctid Newydd 28/09/2005 Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg 25/07/2005 Gwyl Aml-ddiwylliant Merthyr 18/07/2005 Swyddog Maes Newydd 16/05/2005 Hwyl Hanner Tymor 17/04/2005 Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies 17/04/2005 Paentio Ystafell Ieuenctid Canolfan Merthyr - Mawrth 2004 17/04/2004 Paratoi at Hanner Tymor 14/01/2004 Lansio Menter Newydd 04/01/2004 Penodi Swyddogion i Fenter Merthyr 15/05/2003 Bwrlwm ym Merthyr![]() Ar dudalen flaen gwefan y fenter ym Merthyr, fe welwch y farddoniaeth isod sy’n rhan o sgript opera roc a berfformiwyd yno yn 2006:
Mae fflam yn nhref y ffwrnais, Mae angerdd yn ein cân. O ludw oer Cyfarthfa, edrychwn ni ymlaen. Ni yw gobaith Merthyr, Mae mentro yn ein gwaed. Dyfodol yn y cymoedd, Cymraeg sydd ar ei thraed. Ar ôl ymweld â’r Ganolfan yn ddiweddar a dod i wybod mwy am yr holl gynlluniau sydd ar y gweill, ni all yr un dyn byw ddadlau nad yw’r fflam erbyn hyn bron yn goelcerth. Un o’r pethau mwyaf annisgwyl am y lle yw bod y Ganolfan wedi ei lleoli ar waelod lôn gul yng nghanol tref Merthyr ac wedi ymgartrefu mewn hen festri capel, gyda’r capel ei hun (Capel Soar) rhyw fetr yn unig i ffwrdd, yr ochr draw i’r lôn gul. Mewn gwirionedd, dyma ffrwyth Eisteddfod yr Urdd 1987 a gynhaliwyd ym Merthyr. Penderfynwyd adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan ymweliad yr Eisteddfod â’r dref ac arweiniodd y cynlluniau cychwynnol hynny at sefydlu’r fenter yn y festri ym 1992 ac at drefnu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg unwaith y mis. Ym 1992 agorwyd siop lyfrau Cymraeg yno hefyd. Roedd yr holl waith a wnaed gan unigolion yn y fenter am y ddeng mlynedd cyntaf hynny yn hollol wirfoddol. Yn 2002 cyflwynwyd cais llwyddiannus i Fwrdd yr Iaith am arian i sefydlu menter swyddogol ac yn 2003 sefydlwyd Menter Iaith Merthyr gyda chydweithrediad pwyllgor Capel Soar. Lis McLean yw’r Swyddog Datblygu ac mae hi wedi bod yn weithgar iawn yno ers y dechrau. Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu’r holl newidiadau sydd ar y gweill yno. Y bwriad yw trawsffurfio Capel Soar ac adeilad y festri ym Mhontmorlais yn lleoliad celfyddydau cymunedol. Bydd y cynllun yn galluogi datblygu’r celfyddydau ym Merthyr trwy ddarparu canolbwynt ar gyfer celfyddydau o fewn y gymuned. Bydd Grŵp Sylfaen o ddarparwyr celfyddydau cymunedol yn gyfrifol am reoli, cynllunio a datblygu’r fenter. Bydd y manteision i’r gymuned yn enfawr wrth gwrs ac yn cynnwys: • lle aml-bwrpas fforddiadwy • darpariaeth gelfyddydol sydd yn hygyrch ac yn fforddiadwy • cyfleoedd addysgiadol a chymdeithasol dwyieithog yn ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau, yn ogystal â hyfforddiant • cynnydd yn yr ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru Bydd hyn i gyd yn arwain at greu Theatr Gymunedol ddwyieithog yn y capel ei hun fydd yn darparu man cyfarfod a pherfformio i nifer fawr o gwmnïau a chlybiau yn yr ardal. Bydd trysorau Capel Soar wrth gwrs, megis yr hen organ, yn cael eu diogelu a byddant yn cael eu cadw yn eu lle gwreiddiol. Bydd y capel yn cau fel man addoli ar y 5ed o Fawrth gyda gwasanaeth arbennig a bwriedir lansio llyfr yn olrhain hanes Capel Soar. Wedi hynny gellir gweithredu’r cynllun o greu awditoriwm, llwyfan, stiwdio ddawns a chelf. Y nod yw darparu cyfleoedd Cymraeg mewn canolfan Gymraeg. Yn wreiddiol sefydlwyd Capel Soar yn gapel a chanolfan moethus i Annibynnwyr y dref. Gellir dadlau bod hynny’n parhau mewn modd, efallai, fydd yn cyrraedd cynulleidfa tipyn yn fwy. Mae’r cynlluniau yn uchelgeisiol ond yn gyffrous iawn. Bydd y cyfanswm o £1.4 miliwn sydd ei angen ar gyfer yr holl waith hefyd yn caniatáu troi’r festri’n 3 llawr i gynnwys: • ystafelloedd dysgu • neuadd • lolfa • siop lyfrau a chaffi • swyddfa’r fenter • swyddfeydd ar gyfer Canolfan Cymraeg i oedolion Morgannwg • swyddfeydd ar gyfer yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin Y gobaith yw gweld y gwaith yn dod i ben ymhen rhyw ddeunaw mis ond yn y cyfamser mae’r gwaith ardderchog a wneir yno gan gnewllyn bychan o unigolion yn parhau. Yn ogystal â Lis, mae Jamie Bevan yn gweithio i’r ganolfan fel swyddog maes ac mae Siôn Roberts, swyddog yr Urdd, hefyd wedi ei leoli yno. Mae’r ymdrechion a wneir ganddynt i godi proffil yr iaith Gymraeg a hyder y bobl leol i’w defnyddio yn ganmoladwy. Maent wedi sefydlu projectau Cymraeg mewn rhai o ysgolion uwchradd Saesneg Merthyr ac er bod problemau cyffuriau wedi amharu ychydig ar ddatblygiad yr ysgolion roc, maent yn ceisio goresgyn y problemau hynny i barhau i gynnal sesiynau jamio ar gyfer bandiau ifanc. Mae Jamie Bevan yn cynnal colofn wythnosol yn y ‘Merthyr Express’ er mwyn codi proffil y gweithgareddau ac mae nifer o grwpiau’n defnyddio gofod y festri eisoes e.e. cymdeithas y dysgwyr, cwmni dawnsio gwerin, cwmni drama a.y.y.b. Mae’r dyfodol yn ddisglair ym Merthyr ac mae llwyddiant yn magu llwyddiant. Rhaid cofio mai gwraig o Ferthyr yw Jenny Henn, sef un o’r pedwar oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn. Does dim angen dweud mwy. O Y Tiwtor Chwefror 2009 ![]() 16/02/2009
|
Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc ![]() |