Dewiswch£5000 - Cyfle i fusnesau newydd 07/06/2010Llythyr o Gefnogaeth i Gynllun Soar (Ie – un arall!) 07/05/2010 Gweithgareddau i Ddysgwyr 17/04/2010 Cwrs lefel Mynediad 17/08/2009 £2100 i sefydlu sin Werin Gymreig Merthyr 20/07/2009 Prosiect Gwaith Ieuenctid 17/02/2009 Bwrlwm ym Merthyr 16/02/2009 Grant i Gapel Soar 09/10/2008 Hanes Capel Soar 17/07/2008 Llwyddiant Ddramatig! 01/02/2008 Band fwyaf y byd yn canu i dorfeydd Merthyr!! 23/11/2007 Dawnsio Disgo 11/10/2007 Ysgol Roc! 30/08/2007 Arswyd yn y Ganolfan 23/05/2007 Sgwad Sgwennu 29/04/2007 Cerdd a Chwrw 12/4/07 20/04/2007 Tasgau Gwîb – Y Sgwad Sgwennu 17/04/2007 CYMRO-C ar y blaen 29/03/2007 Sesiwn Jamio Nos Fercher 10fed Ionawr 15/01/2007 Theatr Ieuenctid 13/09/2006 SEREMONI WOBRWYO'R SESIYNAU CHWARAE 03/09/2006 Sesiynau Chwarae'r Haf 25/08/2006 Sesiynau Chwarae 31/07/2006 Gweithdy Pop 27/07/2006 LLWYDDIANT OPERA ROC 84/85 19/07/2006 DIGWYDDIAD PENTREF BYD EANG 19/07/2006 Cynllun Soar 15/07/2006 OPERA ROC 84/85 30/06/2006 HELFA DRYSOR HANES MERTHYR TUDFUL 26/06/2006 Noson Ciniawa yng nghwmni Nia Parry 26/06/2006 Sesiynau Chwarae Hanner Tymor yr Haf 01/06/2006 SIOEAU TRIONGL 22/05/2006 Opera Roc Y Fenter 19/05/2006 Cwis Teulu Eddie Butler 07/04/2006 Sesiynnau Chwarae Chwefror 23/02/2006 YMGYRCH MARCHNATA CYMRAEG - SOAK IT UP 22/02/2006 Sesiwn Hwiangerdd Prif Lyfrgell Merthyr Tudful 10/02/2006 DATHLU PENBLWYDD!!! 17/01/2006 TRIP CANOLFAN Y MILENIWM 03/01/2006 Hwyl Hanner Tymor yr Hydref 27/10/2005 Angen Arweinydd Côr 20/10/2005 Twmpath Ardderchog 14/10/2005 Theatr Ieuenctid Newydd 28/09/2005 Bore Coffi y Ganolfan Gymraeg 25/07/2005 Gwyl Aml-ddiwylliant Merthyr 18/07/2005 Swyddog Maes Newydd 16/05/2005 Hwyl Hanner Tymor 17/04/2005 Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies 17/04/2005 Paentio Ystafell Ieuenctid Canolfan Merthyr - Mawrth 2004 17/04/2004 Paratoi at Hanner Tymor 14/01/2004 Lansio Menter Newydd 04/01/2004 Penodi Swyddogion i Fenter Merthyr 15/05/2003 Y Lle i Ddysgu Cymraeg gan Helen Davies![]() Gyda’r flwyddyn newydd mae’r dosbarthiadau Cymraeg y Ganolfan wedi symud mewn i'w cartref newydd yn y festri. Diolch o galon i bawb sy wedi helpu adnewyddu'r lle sydd yn nawr yn edrych yn dda iawn.
Erbyn hyn mae tua 60 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer dosbarthiadau, gyda dros 30 yn mynychu cwrs hyblyg blwyddyn un dwywaith yr wythnos. Dyna'r tro cyntaf i ni redeg cwrs o'r fath, gwers 1 ar gael bore dydd llun ym Merthyr, prynhawn dydd llun yn Aberdâr a nos Fawrth ym Merthyr a gwers 2 ar gael bore dydd Mercher a nos Iau ym Merthyr a phrynhawn dydd Gwener yn Aberdâr. Mae nifer o bobl sy'n gweithio sifftiau neu sy'n cael trafferth dod ar yr un amser bob wythnos wedi manteisio o'r drefn. Mae'n codi fy nghalon i weld cymaint o bobl yn troi lan bob gwers ac mae eu cariad tuag at yr iaith yn amlwg, er bod rhai ohonynt wedi bod yn dysgu dim ond ers mis Medi. Perfformiwyd sgets Nadoligaidd gan grwp o ddysgwyr blwyddyn un a dau yn ystod y noson Cerdd a Pheint ym mis Rhagfyr. Dyna lun o rai ohonynt yn mwynhau canu "Aderyn Melyn". Maen nhw'n dweud pa mor bwysig yw'r cyfle i siarad yr iaith iddyn nhw er mwyn iddynt groesi'r bont i ddod yn rhan o'r gymdeithas Gymraeg. Mae'n help mawr iddynt i weld pobl sy'n gwisgo bathodynnau i ddweud eu bod nhw'n siarad y Gymraeg felly os does dim bathodyn gyda chi, ffoniwch Lis ac Ian i gael gafael ar un. Bydd nifer o'r dysgwyr yn sefyll arholiad "Defnyddio'r Gymraeg" ym mis Mawrth. Maen nhw hefyd yn edrych ymlaen at gystadlu yn eisteddfod y dysgwyr eleni. Gyda'r son am geisio perfformio pantomeim yn y gaeaf mae nifer ohonynt wedi cynnig peintio, gwau ac yn y blaen yn barod. Dylen ni fod yn falch iawn ohonynt. Rwyf yn sicr y byddent yn rhoi cyfraniad mawr i ni yn y dyfodol. Cawsom ni ein babi cyntaf hefyd. Llongyfarchiadau i Kristin Jones ar enedigaeth ei mab ym mis Rhagfyr. Mae pawb yn edrych ymlaen at weld Kristin nôl yn y dosbarth cyn bo hir. 17/04/2005
|
Lluniau Bedroc 2010 >> Bedroc ![]() |