£5000 - Cyfle i fusnesau newydd
Os ydi chi'n ysu i ddechrau busnes eich hun, neu am ddatblygu syniad cyffrous o fewn busnes sydd wedi ei dechrau o fewn y pum mlynedd diwethaf ... wel, dyma'ch cyfle i ennill PUM MIL O BUNNOEDD a chyngor busnes i droi pethau'n realiti.
Daw'r cyfle yma trwy gystadleuaeth Gorsedd y Dreigiau (sef panel o entrepreneurs amlwg Cymreig) sy'n dod at ei gilydd i feirniadu cystadleuaeth unigryw i siaradwyr Cymraeg ar ffurf y gyfres deledu boblogaidd Dragon's Den.
Trefnir y gystadleuaeth gan Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth y Cynulliad, a gyda chymorth cwmni Telesgôp.
Gofynnir am gynllun busnes syml (templed ar gael o’r linc isod) yn amlinellu'r syniad (gall fod yn ddyfais, cynnyrch, gwasanaeth, etc). a bydd y tri gorau yn cael gwahoddiad i gyflwyno'u syniad i Orsedd y Dreigiau yn y rownd derfynol a gynhelir ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw'r 2il o Orffennaf 2010.
Am fwy o wybodaeth, y rheolau, a templed o'r ffurflen gais/cynllun busnes rhowch alwad ffon i ni ar 01970 636280