Merthyr

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

Hybu ac ehangu defnydd o’r Gymraeg

Help / Cymorth
Soar

Gweithgareddau Amrywiol a Chymdeithasol

Oedolion 1

Priodas Santes Dwynwen

Priodas Santes Dwynwen
Ry'n ni'n edrych ymlaen at hon!

Gobeithio gwelwn ni chi yno x
19/01/2012

Swydd Llawn Amser

Swyddog Treftadaeth £20,000 (Cefnogir gan Cronfa Teftadaeth y Loteri am gyfnod o 2 flynedd )
Rhywun i weithio gyda chymuned Merthyr Tudful i godi ymwybyddiaeth am dreftadaeth leol a'i chysylltiad âr iaith Gymraeg.

Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â
Lisbeth McLean
Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB
01685-722176/ lis@merthyrtudful.com
Dyddiad Cau 25 Tachwedd 2011. Cynhelir cyfweliadau 29 Tachwedd 2011.

The ability to speak Welsh is essential for this vacancy at Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful who will deliver services in Welsh.
10/11/2011

Taith Siopa Nadolig i Gaerfyrddin, yn Galw ym Methlehem

Taith Siopa Nadolig i Gaerfyrddin, yn Galw ym Methlehem
Ymunwch â ni ar gyfer taith siopa Nadolig i Gaerfyrddin Ddydd Sadwrn 03-12-11! Ar y ffordd, byddwn ni'n galw yn Ffair Nadolig Bethlehem ac fe gewch chi'r cyfle i gael marc post enwog y swyddfa bost honno ar eich cardiau Nadolig. Agorir y ffair gan westai arbennig a bydd Siôn Corn yno hefyd! Byddwn ni'n gadael o faes parcio Canolfan Soar, Pontmorlais am 9.30am a dychwelyd tua 5.30pm.

Oedolion: £10

Plant: £5

RHAID ARCHEBU SEDDI O FLAEN LLAW

Cysylltwch � Greg neu Angharad ar 01685 722176
cyn gynted � phosib er mewn osgoi cael eich siomi
Taith Siopa Nadolig i Gaerfyrddin, yn Galw ym Methlehem
13/11/2011

Dangosiadau Ffilm yn Theatr Soar

Dangosiadau Ffilm yn Theatr Soar
IAU 17-11-11 7.30PM

Ffilm ysbrydoledig ac yn weledol drawiadol, ac yn sôn am daith dwy fenyw, y naill yn chwilio am ei gorffennol a�r llall am ei dyfodol.

Yn serennu yn Patagonia mae Matthew Rhys (Edge Of Love a Brothers & Sisters) a'r gantores Duffy, sydd wedi ennill Gwobr Grammy, ac sy'n mentro i'r byd actio am y tro cyntaf. Mae'r ffilm yn wirioneddol wreiddiol gyda deialog mewn Sbaeneg a Chymraeg. Mae'r cast rhyngwladol nodedig hefyd yn cynnwys Nia Roberts (Solomon & Gaynor), Nahaul Perez Biscayart (Glue) a Marta Lubos (Motorcycle Diaries).

TYSTYSGRIF: 15

Tocynnau: £5
01/11/2011

 

 

 

 

 

Canolfan a
Menter Gymraeg Merthyr

Neuadd Soar
Pontmorlais
Merthyr Tudful
CF47 8UB
Ffôn: 01685 722176
  

 

Bwrdd yr Iaith Gymraeg