Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful
 
 
English
 

Siop y Ganolfan - Ffon/Ffacs: 01685 373770

Siop y Ganolfan


Phylyp Griffiths, Rheolwr y Siop

Beth yw'r ots gennyf i am Gymru a llenyddiaeth Gymraeg? Roedd rhaid darllen llyfrau yn yr ysgol, dim dewis, ac roedd rhaid gwybod y llyfrau tu fewn tu fas am yr arholiadau TGAU a level A. Dyddiau yma does neb yn dal dryll i fy mhen ond rwyf yn dal i ddarllen llyfrau Cymraeg... Wel beth sydd wedi digwydd? Pam mae merch o'r Gorllewin wedi cytuno i fod yn rheolwraig y siop lyfrau Cymraeg? Mae'n gweld bod pethau yn newid, mae chwyldro wedi digwydd ym myd llenyddiaeth Cymraeg. Yn barod, mae'r gyfrol gyntaf o anturiaethau Harri a'i ffrindiau yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts wedi ei gyfieithu i r Gymraeg. Wedi chwe' mlynedd o aros a help Emily Huws mae nawr yn bosib darllen 'Harri Potter a Maen yr Athronydd' yn y Gymraeg.

Mae yna nofel yn cael ei gyhoeddi bob mis gan Cyngor Llyfrau Cymru fel 'nofel y mis' ac mae'r nofelau yma wedi bod yn reit dda. Rwyf yn aros yn ddiamynedd am lyfr Hydref ar hyn o bryd. Rwyf newydd orffen darllen y llyfr 'Bywyd Blodwen Jones' gan Bethan Gwanas, mae'r iaith yn hawdd i'w deall ac mae'n ddoniol iawn yn enwedig berson ifanc a sengl. Wel dyna ddigon am fy mhrofiad i gyda llyfrau Cymraeg! Wrth weithio yn y siop rwyf wedi sylweddoli bod llyfrau yn gallu helpu pob math o bobl Cymry Gymraeg a dysgwyr Cymraeg.


 

Mae'n anodd dysgu'r iaith Gymraeg mewn cymuned lle mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Saesneg, dyna lle gall llyfrau Cymraeg helpu. Mae'r Ilyfrau 'Dosbarth Nos' yn gret i ddechrau, ac wedyn mae yna llawer o lyfrau mae'r dysgwyr yn meddwl fydd yn anodd ond os edrychant yn fwy manwl byddant yn cael sypreis. Er enghraifft, y llyfr William Jones gan T. Rowland Hughes sydd wedi cael ei addasu gan Basil Davies ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. 'Yn y gyfres hon mae'r golygydd yn adeiladu pont gan dalfyrru'r nofel wreiddiol yn sylweddol ac ychwanegu nodiadau syml ar waelod y dudalen, fel y gall y darllenydd ddeall a mwynhau'r hyn mae'n ei ddarllen.'

Dyddiau yma mae plant bach yn hoffi r Teletubbies, Fimbles a'r Tweenies. Ma' Bela, Jake, Milo, Fizz a Doodles yn siarad Cymraeg gyda dau lyfr yn Gymraeg. Mae yna nifer o lyfrau ar gael ar gyfer blant hyn sydd yn dysgu Cymraeg, y 'Clwb Cysgu Cwl', 'Gornest Reslo'r Menywod Cinio', 'Help mae 'na hipo yn y cwstard' i enwi rhai. Mae'r llyfrau yn ddoniol a thipyn o sbri i r plant.

Mae bywyd yn Merthyr y chwe' mis diwethaf wedi bod yn galed. Mae'n galed setlo mewn unrhyw gymuned, enwedig yn dod o gymuned fach Rhydaman yn y Gorllewin, ond y mis diwethaf rwyf wedi ffeindio fy nghartref yn Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful, pam 'na alwch i mewn am sgwrs fe fyddaf wrth fy modd yn eich cyfarfod. Mae yna cymuned Cymraeg gret ym Merthyr, a rwyf wedi sylweddoli, ac i brofi roeddwn yn gwrando yn y dosbarth Cymraeg Llenyddiaeth TGAU 'Ac mi glywaf grafangau Cymru'n dirdynnu fy mron. Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.'

Jessica

Siop y Ganolfan - Ffon/Ffacs: 01685 373770

   
     

 

Am unrhyw fanylion pellach mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddfa ar 01685 722176